Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Hydref 2023
Amser:
13:15 -
16:19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13505
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Dr Hamish Laing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Alyson Thomas, Llais Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
2.2 Gohebiaeth â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
2.3 Gohebiaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
2.4 Gohebiaeth â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cadeirydd ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
2.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
2.6 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch cyllideb ddrafft 2024/2025
2.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch papurau tystiolaeth sy’n cefnogi cyllideb ddrafft 2024/25
2.8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau llawfeddygol
2.9 Gohebiaeth gyda Cymorth i Ferched Cymru ynghylch y rhaglen "Gofyn a Gweithredu"
2.10Gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch tlodi plant
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5 a 7 o’r cyfarfod heddiw.
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Ymchwiliad i Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth Cymru: trafod yr adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a gwnaethant newidiadau.
5 Blaenraglen waith
Cytunodd yr Aelodau ar y flaenraglen waith.
6 Cyfiawnder data: y defnydd o ddata personol yn y GIG yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 4
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Alison Thomas, Prif Weithredwr, Llais
Yr Athro Hamish Laing, Prifysgol Abertawe
7 Cyfiawnder data: y defnydd o ddata personol yn y GIG yng Nghymru: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.